CANLLAWIAU I'R DISGYBL
1. Mae gwaith cartref yn cael ei osod er mwyn sicrhau bod disgybl yn gallu llwyddo yn yr ysgol. Nid yw oriau gwersi yn ddigon i sicrhau eich bod yn llwyddo; rhaid gwneud gwaith cartref.
2. Mae gwneud gwaith cartref yn arwydd pwysig - mae e'n dangos eich bod chi yn gallu gweithio ar eich pen eich hunan, ac yn gallu trefnu'ch hunan. Mae disgyblion nad ydynt yn gwneud eu gwaith cartref yn rhai sydd yn methu a bod yn annibynnol ac yn methu a threfnu eu hunain.
3. Dylid nodi pob gwaith cartref yn y Llyfr Cyswllt.
4. Dylid gorffen gwaith cartref a'i gyflwyno ar y dyddiad cywir.
5. Dylai pob gwaith cartref gael ei gyflwyno yn daclus ac wedi ei orffen.
6. Dylai pob gwaith dysgu, ymchwilio, darllen, gwrando neu wylio cael ei wneud yn iawn ac yn drwyadl.
7. Dylid gwneud ymdrech i wneud yn siŵr fod gwaith cartref yn cynnwys sillafiadau a geirfa gywir, h.y. y dylech ddefnyddio geiriadur wrth wneud eich gwaith cartref.
CANLLAWIAU I RIENI
1. Dylid annog plentyn i wneud gwaith cartref yn rheolaidd.
2. Dylai rhieni gyfeirio at y Llyfr Cyswllt i weld a oes Gwaith Cartref wedi ei osod, ac i weld a oes sylwadau oddi wrth athro neu athrawes. Gofynnwn i chi arwyddo'r Llyfr Cyswllt yn wythnosol. Os oes mater yn eich gofidio chi neu'n achosi pryder i chi, rhown anogaeth i chi ei nodi yn y Llyfr Cyswllt. Mae Athrawon Dosbarth yn darllen y Llyfr Cyswllt yn gyson.
3. Dylid sicrhau amgylchedd gweithio addas i bob disgybl - bwrdd, cadair, golau, geiriadur a distawrwydd.
4. Mae canllawiau amser wedi eu nodi. Gofynnwn i chi annog eich plentyn i weithio am gyfnodau rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd. Os nad oes gwaith amlwg wedi ei osod, gofynnwn i chi annog eich plentyn i ddarllen neu i adolygu.
5. Mae croeso i rieni drafod gwaith cartref gyda'u plant; fodd bynnag, gofynnwn i rieni gofio mai gwaith cartref i'r plentyn yw'r gwaith.