• Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

    Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn ysgol benodedig Gymraeg o ddisgyblion 11-18 oed.

     

  • Nod yr Ysgol

    Ein gweledigaeth yw datblygu dinasyddion iach, uchelgeisiol, groesawgar a Chymreig sy’n falch o hanes a diwylliant cyfoethog ein cefndiroedd, ein prifddinas a’n gwlad.

     

  • Derbyniadau

    Mae Ysgol Glantaf yn croesawu disgyblion 11 oed sy'n gallu derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

     

  • Prosbectws

    Rydym yn cynnig cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol ar draws yr ysgol.

     

 

CROESO GAN Y PENNAETH

Mae’n bleser eich croesawu i wefan Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf i brofi ychydig o ethos a chyfoeth ein cymuned ddysgu fywiog yng nghanol Caerdydd. Mae Glantaf yn ysgol Gymraeg fywiog, ofalgar a chroesawgar gyda thraddodiad hir a chyfoethog o lwyddiant mewn sawl maes. Rydym wrth ein bodd bod disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofi llwyddiant o fewn cymuned yr ysgol, boed hynny o fewn pynciau unigol, gweithgareddau allgyrsiol neu ddatblygiad personol.

DARLLEN MWY