PRIF SWYDDOGION 2024/25

Haia! Fy enw i yw Cadi-Gwen, rwy’n astudio Cymraeg, Drama ac Addysg Grefyddol yma yng Nglantaf.Rwy’n berson egnïol a hyderus, sy’n galluogi i mi ymgymryd â phrofiadau ym myd chwaraeon a chelfyddydau’r ysgol megis pel-rhwyd a pherfformio. Mae fy angerdd o Gymreictod yn hollol amlwg ym mhob agwedd o’m mywyd ac rwy’n edrych mlaen i atgyfnerthu’r angerdd a’r brwdfrydedd yma fel Prif Swyddog yn y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

Helo, fy enw i yw Leon Ohimekpen ac rwy'n astudio Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Hanes. Trwy gydol fy amser yn ysgol Glan ceubal ac yn fwy felly yng Nglantaf rwyf wedi ymrwymo i wella ein hysgol i bob disgybl. Rwy’n dragwyddol ddiolchgar i gynrychioli Glantaf fel ein prif swyddog croen du cyntaf erioed ac rwy’n gobeithio ysbrydoli llawer mwy i ddilyn fy nghamau, wrth i mi edrych ymlaen at heriau’r flwyddyn i ddod.

 

 

Helo, fy enw i yw Nia Griffiths ac rydw i’n astudio Bioleg, Cemeg, Addysg Gorfforol a Chelf yn y chweched ddosbarth. Yn ystod fy amser rhydd rydw i’n mwynhau amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys pêl-rwyd, ballet a dringo yn ogystal â chymdeithasu gyda fy ffrindiau. Rydw i wedi fy arhydu gyda’r cyfle i fod yn brif swyddog gan hoffwn gyfrannu nol i’r ysgol, a rydw i’n edrych ymlaen i’r flwyddyn sydd i ddod.

 

 

Fy enw i yw Iestyn Williams, a dwi’n astudio Hanes, Daearyddiaeth a chymdeithaseg yma yng Nglantaf. Yn ystod fy amser yn yr ysgol hon rwyf wedi manteisio’n llawn ar y cyfleoedd diwylliannol a chwaraeon sydd ar gael i bawb. Rwy’n falch ac wrth fy modd eich bod wedi fy ethol i fod yn un o’r Prif Swyddogion.