Cyflwyniad i ‘Parent Pay’
Mae Parent Pay yn ffordd i dalu am brydau ysgol.
Mae’n system ‘fiometrig’ sydd wedi’i chyflwyno i reoli prydau ysgol yn well.
Mae’r system yn golygu na fydd yn rhaid i fyfyrwyr a staff dalu am brydau ysgol gydag arian parod mwyach. Yn hytrach, byddant yn gallu prynu eu prydau a byrbrydau drwy ddefnyddio eu hôl bys wrth y til.
Mae’n golygu y gall yr ysgol ddarparu gwasanaeth arlwyo cyflymach, mwy effeithiol a mwy deniadol i’n myfyrwyr a staff. Mae’r systwm adnabod ôl bys wedi’i chysylltu â chyfrif unigol eich plentyn. Gallwch reoli a gwneud taliadau i’r cyfrif ar-lein neu drwy un o 144 o gyfleusterau ‘PayPoint’ sydd ar gael ledled Caerdydd – mae 1 ar safle’r ysgol.
Am fwy o wybodaeth , cliciwch ar y cyswllt:
Parent Pay