Derbyniadau / Ymuno a chymuned Glantaf

Croeso i Blwyddyn 7!

Trosglwyddo Cynradd > Uwchradd

Rydym yn cydweithio’n agos iawn gyda ein ysgolion partner clwstwr:

ac rydym yn cynnig rhaglen gyfoethog o weithgareddau pontio ar gyfer disgyblion wrth iddynt ymuno â chymuned Glantaf o Fl6.

Mae’r gweithgareddau rhain yn cynnwys gweithdai, ymweliadau, sesiynau hawl i holi gyda disgyblion Glantaf, gwersi Ffrangeg ac Almaeneg gyda athrawon ieithoedd Glantaf, gweithgareddau chwaraeon, nosweithiau rhieni, digwyddiadau rhithwir a llawer mwy!

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth drwy ymweld â gwefan pontio Glantaf: Pontio Glantaf (google.com)

Cysylltwch âg Arweinydd Cynnydd a Lles Bl 6>7, Mrs Ffion Roberts

Mae holl dderbyniadau yn cael eu trefnu drwy Awdurdod Addysg Cyngor Caerdydd yma: Applying for a school place (cardiff.gov.uk)

Mae nosweithiau rhieni Bl6 yn cael eu cynnal yn Medi / Hydref pob blwyddyn ac yn gyffredinol mae dyddiad cau derbyniadau i holl ysgolion Caerdydd erbyn dechrau Rhagfyr ar gyfer y Medi dilynol. Mae rhieni yn cael gwybodaeth am ysgol eu plant erbyn Mawrth y 1af pob blwyddyn gan Awdurdod Addysg Cyngor Sir Caerdydd.

 

Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn ysgol

Os ydych yn ystyried ymuno â Glantaf mewn blynyddoedd ysgol eraill, yn y lle cyntaf dylech gysylltu â'ch ysgol gartref i drafod ac ystyried pob opsiwn cyn trosglwyddo. Yna gallwch gysylltu â Glantaf am sgyrsiau rhagarweiniol ac i ofyn am ragor o wybodaeth ac arweiniad. Fodd bynnag, caiff yr holl dderbyniadau eu gweinyddu a'u rheoli drwy Gyngor Caerdydd.

Mae’r holl dderbyniadau yn cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd Applying for a school place (cardiff.gov.uk)