Cyfeillion Glantaf Association

Cymdeithas "Cyfeillion Glantaf"

Cyfeillion Glantaf yw cymdeithas o rieni, staff, cyn-ddisgyblion, cefnogwyr ac aelodau o'r gymuned ehangach sy'n dymuno cefnogi'r ysgol mewn sawl ffordd wahanol.

Gallai'r rhain gynnwys:

  • Sefydlu a chryfhau'r berthynas rhwng yr ysgol a theuluoedd
  • Adeiladu a chryfhau cymuned Glantaf
  • Gwella ac ymestyn ehangder profiadau disgyblion
  • Codi arian ar gyfer gweithgareddau'r ysgol
  • Cefnogi'r ddarpariaeth addysgol o fewn yr ysgol
  • Gwella’r berthynas cryf o fewn cymuned yr ysgol

Rydym yn cwrdd bob hanner tymor naill ai drwy Teams yn rhithiol neu yn yr ysgol ac rydym yn croesawu aelodau a chefnogwyr i ymuno â ni yn ein gweithgareddau i gefnogi Glantaf.

Ymunwch â ni yn ein cyfarfodydd nesaf sydd bob amser yn cael eu hysbysebu yng nghylchlythyr yr ysgol.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!