Gwisg Ysgol

Mae Glantaf yn falch o'r ffordd y mae ein myfyrwyr wedi'u cyflwyno'n dda ac yn diolch i'n rhieni a'n myfyrwyr am yr amser a'r ymdrech i gynnal safonau uchel o wisg ysgol.

Mae ein gwisg ysgol yn cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru o ran gwerth am arian, gwydnwch a sicrhau triniaeth gyfartal rhwng disgyblion o wahanol rywiau, disgyblion o wahanol gefndiroedd ethnig a chrefyddol a disgyblion anabl. Yn ychwanegol, rydym yn falch iawn bod disgyblion yn teimlo'n gyfforddus yn eu gwisg ysgol, bod rhieni'n gwerthfawrogi ansawdd a gwerth yr eitemau a brynir a bod dillad ar agel yn rhwydd i deuluoedd yn y ddinas.

Ein cyflenwr dynodedig yw YC Sports, 90 Crwys Rd, Caerdydd CF24 4NP

Gwefan: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (ycsports.com)

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y wisg ysgol, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.

Safle Ailgylchu Gwisg Ysgol am ddim Facebook

Ymunwch a'n safle Ailgylchu Gwisg Ysgol ar Facebook sy'n safle pwysig a phrysur yn cynnig gwisg ysgol ail-law o safon da i deuluoedd. Dyma safle sy'n galluogi chi i rannu a chynnig gwisg sydd bellach yn ddi-angen i eraill ac sydd hefyd yn cynnig, ar adegau, adnoddau, llyfrau gosod a dillad arbenigol ar gyfer y Ddawns Ffarwel. Gallwch hefyd gysylltu a ni yn uniongyrchol i gyfrannu gwisg ysgol neu i gael mynediad i wisg ysgol ail-law o'n stordy yn yr ysgol.

Safle Facebook: Gwisg Ysgol Glantaf School Uniform recycling - Home | Facebook

GWISG YSGOL

Rhaid gwisgo’r wisg ysgol gywir ar bob achlysur yn unol â’r rhestrau isod a chofiwch roi eich enw ar bob dilledyn.

  • Sgert las tywyll gyda "pleats" hyd at y benglin (neu yn agos at y benglin)
  • Trowsus glas tywyll - steil clasurol; DIM trowsus du; DIM steil jîns; DIM leggings.
  • Sanau Glas tywyll neu ddu YN UNIG.
  • Caniatad i wisgo siorts swyddogol yr ysgol trwy gydol y flwyddyn.
  • Blynyddoedd 7-9: crys polo glas golau â bathodyn yr ysgol.
  • Blynyddoedd 10-11: crys polo glas tywyll â bathodyn yr ysgol.
  • Crys chwys glas tywyll â bathodyn yr ysgol. Dim Hwdis o unrhyw fath.
  • Esgidiau neu esgidiau ymarfer du synhwyrol – DIM esgidiau ymarfer â lliw, DIM sodlau uchel.
  • Gwallt mewn steil sy’n dderbyniol ar gyfer ysgol; DIM lliw annaturiol, llinellau na phatrymau.
  • Ni chaniateir gwisgo unrhyw dlysau yn yr ysgol heblaw am un pâr o glust dlysau – styden blaen, a honno yn y glust.
  • Ni ddylid wisgo colur / lliw ewinedd / estyngiad ewinedd.

GWISG ADDYSG GORFFOROL

  • Sgert glas tywyll.
  • Crys rygbi â bathodyn yr ysgol.
  • Siorts rygbi glas tywyll cotwm.
  • Crys polo coch â bathodyn yr ysgol.
  • Siorts gymnasteg glas tywyll.
  • Sanau chwaraeon hir glas tywyll yr ysgol.
  • Esgidiau pêl-droed.
  • Esgidiau ymarfer gyda sawdl sydd ddim yn marcio lloriau.
  • Trowsus trac wisg â bathodyn yr ysgol (dewisol).