Amddiffyn Plant

Diogelu ac Amddiffyn Plant yng Nglantaf

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wedi ymrwymo i sicrhau lles a diogelwch pob myfyriwr. Credwn fod gan bob myfyriwr yr hawl i ddysgu mewn amgylchedd gefnogol, ofalgar a diogel er mwyn iddynt datblygu'r gred, y dyhead a'r dewrder i fod eu gorau

Mae gan yr ysgol weithdrefnau cadarn ar gyfer cadw ein plant yn ddiogel. Rydym yn gweithio'n agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol ac yn dilyn Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan ar gyfer diogelu. I gael rhagor o wybodaeth, mae gennym Bolisi Diogelu a Pholisi Amddiffyn Plant penodol sydd i'w weld ar y wefan o dan yr adran Polisïau.

Mae staff allweddol yn yr ysgol yn gyfrifol am faterion amddiffyn plant. Mae'r staff hyn wedi derbyn hyfforddiant diogelu ychwanegol. Y staff allweddol yw:

  • Mrs Beca Newis - Athro Amddiffyn Plant Dynodedig / Pennaeth Cynorthwyol
  • Mr Denis Pugh - Athro Amddiffyn Plant Dynodedig / Pennaeth Cynorthwyol

Beth yw diogelu plant?

Mae gan bob oedolyn yn yr ysgol gyfrifoldeb i'ch diogelu chi. Beth mae hyn yn ei olygu yw hybu eich Lles a’ch diogelu rhag niwed

  • Gwarchod rhag camdriniaeth corfforol, emosiynol, rhywiol ac esgeulstod
  • Atal niwed i'ch iechyd neu ddatblygiad iach
  • Sicrhau eich bod yn tyfu fyny gyda gofal diogel ac effeithiol
  • Cymryd camau i ganiatau fod bob plentyn a pherson ifanc yng Nglantaf yn gallu gwireddu eu potensial llawn a thyfu yn oedolion iach a chyflawn.

Beth sydd yn gallu rhwystro bod yn ddiogel i blant a phobl ifanc?

Mae’n bwysig deall fod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn ddiogel ond gall un neu fwy o’r canlynol olygu fod angen i'r ysgol gymryd camau i ddiogelu plant.

  • Camdriniaeth yn y cartref gan oedolion a/neu blentyn neu berson ifanc arall
  • Camdriniaeth yn yr ysgol gan oedolion a/neu blentyn neu berson ifanc arall
  • Camdriniaeth gan ddieithriaid yn uniongyrchol neu’r drwy’r we e.e. defnydd o wefannau cymdeithasol
  • Diogelu rhag ymddygiad risg eu hun e.e ymddygiad rhywiol niweidiol, alcohol a chyffuriau neu ymwneud ag ymddygiad risg arall.
  • Diogelu a gwarchod rhag gwahaniaethu tarddiad cenhedlig, lliw, crefydd, rhywedd, rhywioldeb, oedran, anableddau, newid rhyw.
  • Diogelu rhag effaith anhwylderau Iechyd meddwl

Pwy sydd yn gyfrifol am ddiogelu plant yng Nglantaf?

Mae BOB oedolyn sydd yn gweithio yn yr ysgol wedi derbyn hyfforddiant diogelu plant ac yn deall eu dyletswydd i’ch cadw’n ddiogel

Arweinydd Amddiffyn a Diogelu plant - Mrs Beca Newis Swyddfa ar goridor B ac yn dysgu yn M8 neu yn gyfagos. Cyfeiriad ebost newisr@hwbcymru.net

Dirprwyon Amddiffyn a Diogelu plant - Mr Denis Pugh Swyddfa ar goridor B ac yn dysgu yn T14 neu yn gyfagos a Mr Matthew Evans Pennaeth yr ysgol, Swyddfa ar goridor A.

Arweinwyr Cynnydd a Lles – Mrs Ffion Roberts, Mrs Bethan Walkling, Mrs Siwan Lee, Mrs Aimee Moule, Frau Fawkes, Mr Tegid Richards, Miss Luned Vaughan a Mr Hefin Griffiths

Beth ddylwn wneud os oes gen i bryder diogelu am fy hun neu ffrind neu unrhywun rydw i yn adnabod?

Y cyngor pwysicaf gallwn roi i chi yw – DWEUD WRTH RHYWUN. Gallwch ddewis un o’r bobl uchod neu mynd at eich athro dosbarth neu athro neu aelod o staff rydych yn ei hoffi yn yr ysgol.

Bydd y person yna yn gwrando arnoch ac ac egluro beth fydd yn digwydd nesaf. Mae’n bwysig deall na all athrawon gadw cyfrinachau pan fod pryderon am eich diogelwch a llesiant. Bydd yr aelod o staff yn egluro hyn i chi fod dyletswydd arnynt i basio’r wybodaeth at un o’r Arweinwyr Amddiffyn a Diogelu Plant.

Yn ogystal a chymorth yn yr ysgol mi allwch gysylltu gyda llinellau cymorth am ddim sy’n diogelu plant:

NSPCC 0808 800 5000

Childline 0800 1111

Mae'r ysgol yn le diogel i chi, i rannu gofidiau mae cymorth ar gael bob tro. Does dim rhaid i unrhyw blentyn neu berson ifanc ddioddef mewn tawelwch