Prif Swyddogion 2025/26

Menna Llwyd Evans

Fy enw i yw Menna Llwyd Evans, rwy’n hynod o falch o fod yn ddisgybl yn chweched Glantaf, gan fy mod yn medru cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, o ganu mewn côr, i siarad cyhoeddus. Dwi’n astudio’r Gymraeg, Hanes, Gwleidyddiaeth, a Cherdd Technoleg yn y chweched, ac rwy’n gyn-ddisgybl Ysgol Melin Gruffydd. Rwy’n mwynhau chwarae’r piano a gitar mewn band yn fy amser sbâr. Rwy’n gyffrous i roi yn ôl i gymuned Glantaf fel prif swyddog, ar ôl derbyn nifer o gyfleoedd arbennig dros y pum mlynedd diwethaf.

 

Romilly Bennett

Helo, Romilly Bennett ydw i, ac rwy'n astudio Mathemateg, Ffiseg, Cemeg a Bagloriaeth Cymru. Cyn-ddisgybl Ysgol Melin Gruffydd ydw i. Rwy'n mwynhau gweithgareddau chwaraeon yr ysgol yn fawr, a'r cyfleoedd maen nhw wedi'u rhoi i mi. Rwy'n gyffrous i gymryd y cyfrifoldeb o gynrychioli pawb, i wrando ac i weithredu dros fy ysgol. Rwy'n ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn weithgar; rwy'n falch iawn i fod yn Brif Swyddog i chi.

 

Genevieve Miles

Helo, fy enw i yw Genevieve Miles ac rwy’n astudio Maths, Maths Pellach, Cemeg a Ffiseg yma yng Nglantaf. Rwy’n cyn-ddisgybl Ysgol Melin Gruffydd. Rwyf wedi mwynhau’r ystod o gyfleoedd yma, o chwarae ar y tîm rygbi ac yn y gerddorfa i gystadlu mewn cystadlaethau cyfrifiadureg a barddoniaeth ac rwy’n gyffrous i allu rhoi’n ôl i’r ysgol. Yn dod o deulu sy’n siarad Saesneg ac yn byw yng Nghymru, mae’r iaith a diwylliant Gymraeg wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd, ac rwy’n falch i nawr fod yn arwain trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n berson uchelgeisiol, angerddol a theg, ac mae’n anrhydedd cael gweithio yn y rôl yma.

 

Gruff Prys Davies

Helo, Fy enw i yw Gruff Prys Davies. Rwy’n astudio'r Gymraeg, Drama, Cyfryngau a Saesneg iaith. Person hyderus, hawddgar, positif ac egnïol ydw i. Rwy’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Gymraeg Melin Gruffydd. Tri pheth sydd yn bwysig i mi yw rwy’n ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn mwynhau bod yn rhan o G.Y.T.S. a threfnu gweithgareddau amrywiol i hybu’r iaith. Mae rhoi nôl i'r gymuned yn bwysig i mi gan fy mod i wedi elwa llawer o’r profiadau dwi’n eu cael ac yn credu mewn talu’r caredigrwydd ymlaen. Ac rwy’n credu bod cerddoriaeth yn bwysig er mwyn galluogi creadigrwydd a hunanfynegiant. Edrychaf ymlaen at wneud gwahaniaeth yn yr ysgol drwy ailgyflwyno Radio Glantaf, mwy o waith elusennol, hybu G.Y.T.S (Gwneud ymdrech trwy siarad) a rhoi cyfleoedd i ddisgyblion gymdeithasu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.