Trafnidiaeth / Teithio i’r ysgol

Mae holl drefniadau bysiau ysgol a theithio i’r ysgol yn gyfrifoldeb ac o dan drefniant Cyngor Caerdydd. Bydd disgyblion yn derbyn trwydded teithio gan y Cyngor os ydynt yn gymwys am daith ysgol yn rhad ac am ddim.

Os oes gennych unrhyw bryder, ymholiad neu gais yn ymwneud â thrafnidaieth I’r Ysgol dylch gyfeirio y cais hwnnw at Gyngor Caerdydd yn y lle cyntaf. Gweler isod:

Trafnidiaeth Ysgol (cardiff.gov.uk)

Nodwch os gwelwch yn dda bod Glantaf yn gwbl ymrwymiedig i God Teithio Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Bydd angen i ddisgyblion sy’n teithio ar fws gan Gyngor Caerdydd neu wedi’i drefnu gan Ysgol Glantaf gna agdw yn dynn iawn at ofynion y Cod Teithio. Petai disgybl yn torri disgwyliadau y Cod Teithio mae’n gwbl bosib y bydd disgybl yn peidio cael teithio ar fysiau’r Cyngor am gyfnod yn dilyn y digwyddiad. Gellir gweld copi o’r Cod Teithio yma:

y-cod-ymddygiad-wrth-deithio-ar-fysiau-ysgol-a4.pdf (llyw.cymru)