Derbyniadau / Ymuno a chymuned Glantaf

Croeso i Bl 12 a 13

Ymuno â Chweched Dosbarth Glantaf

Mae'n bleser gennym groesawu myfyrwyr i'n Chweched Dosbarth yng Nglantaf lle rydym yn cynnig ystod eang o gymhwysterau yng Nglantaf a thrwy ein partneriaeth helaeth ag Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac Ysgol Gymareg Bro Edern fel rhan o bartneriaeth BroPlasTaf.

Rydym yn hynod falch o'n myfyrwyr Chweched Dosbarth sy'n cyfrannu'n helaeth at amrywiaeth a chyfoeth cymuned ein hysgolion. Maent yn cael eu gweld fel modelau rôl rhagorol, yn mentora disgyblion iau, yn ysgogi cymorth rhifedd a llythrennedd i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 7 ac 8 ac fel Bydis mewn rhaglen gymorth fugeiliol ofalgar. Maent yn arwain ac yn chwarae rhan hanfodol yn Eisteddfod yr Ysgol, mewn timau a drwy hyfforddi ac wrth gefnogi ystod eang o waith elusennol o fewn cymuned yr ysgol.

Yn academaidd, mae myfyrwyr yn y chweched dosbarth yn perfformio i safon uchel iawn ac yn sgorio graddau uchel yn gyson ar draws y proffil gallu gan sicrhau lleoedd ar gyrsiau cystadleuol mewn sefydliadau Addysg Uwch ledled y DU.

Gall myfyrwyr elwa o adnoddau o ansawdd uchel a lleoliadau, sy'n cynnwys cyfleusterau TGCh fodern, ystafell astudio ac ardaloedd adolygu gan gynnwys Bistro'r Chweched. At hynny, yn gyson mewn cyfweliadau llais disgyblion, mae myfyrwyr yn canmol y cymorth a'r arweiniad o ansawdd uchel a gânt gan eu tiwtoriaid arbenigol. Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r rhyngweithio a'r cymorth unigol a gânt ym mhob un o'u pynciau unigol, lle cânt eu herio a'u hannog yn gyson i ddod yn ddysgwyr annibynnol aeddfed .

Ein nod yw annog myfyrwyr i ddatblygu'n academaidd, yn alwedigaethol, yn bersonol ac yn gymdeithasol, ac i ddatblygu’n ddinasyddion aeddfed, cyfrifol a dwyieithog.

Dros y blynyddoedd, mae ein myfyrwyr Chweched Dosbarth wedi dod â rhagoriaeth i'r ysgol mewn ystod eang o feysydd. Disgwyliwn i bob myfyriwr fod yn ymrwymedig i'w hastudiaethau, i hyrwyddo ethos Cymraeg yr ysgol, i fod yn arweinwyr ifanc cyfrifol o fewn cymuned y disgyblion ac i fwynhau'r profiadau newydd sydd ar gael yn y chweched dosbarth.

Cysylltwch gyda ein tim cynnydd a bugeliol ac Arweinydd y Chweched Dosbarth, Mr Hefin Griffiths

 

Prif Swyddogion Chweched Dosbarth

Rydym wrth ein bodd bod ein Senedd Ysgol yn cael ei harwain a'i chynrychioli gan ein tîm o Uwch Swyddogion yng Nglantaf. Yn ogystal â chynrychioli disgyblion ar y Corff Llywodraethol maent hefyd yn arwain Fforwm Myfyrwyr y Chweched Dosbarth ac yn chwarae rhan weithredol wrth gynrychioli'r ysgol mewn amrywiaeth o achlysuron drwy gydol y flwyddyn ysgol.

Ein Prif Swyddogion ar gyfer 2022 / 23 yw:

Click here for Head Prefects

 

Academi Rygbi Glantaf

Cysylltwch gyda ein tim hyfforddi o fewn yr Academi Rygbi a Arweinydd yr Academi: Mr Llywarch ap Myrddin