MAE YSGOL GYFUN GYMRAEG GLANTAF YN YSGOL GYFUN CYFRWNG CYMRAEG YNG NGOGLEDD LLANDAF AC YN UN O DAIR YSGOL UWCHRADD CYFRWNG CYMRAEG YN NINAS CAERDYDD.

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf oedd yr ysgol uwchradd gyntaf cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas cyn i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr (1998) ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern (2012) gael eu sefydlu. Er bod pob myfyriwr yn siarad Cymraeg ac fel arfer wedi derbyn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, daw canran uchel o ddisgyblion o gartrefi lle nad y Gymraeg yw iaith y cartref.

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn 1978, gan rannu safle gydag ysgol uwchradd Glantaf High School, cyn ehangu i feddiannu'r campws cyfan. Ei phennaeth cyntaf oedd Mr. J E Malcolm Thomas, a gafodd ei olynu ym 1995 gan Mr. Huw S Thomas, ac yna gan Mrs Rhiannon Lloyd ac ym Medi 2010 fe’I holynwyd gan Mr Alun Davies.

Y Pennaeth presennol yw Mr Matthew H T Evans a gafodd ei benodi i’r swydd arwain hon yn Medi 2020.

Ysgol cyfrwng Cymraeg yw ysgol sy'n darparu ei holl wersi a’i darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg yn cael ei annog a’i hybu yn gyson er mwyn sicrhau rhuglder disgyblion yn yr iaith.

Arwyddair yr ysgol yw Coron Gwlad Ei Mamiaith. Lliwiau’r ysgol yw glas golau a thywyll.

Mae pedwar llys yr ysgol wedi'u henwi ar ôl Seintiau Cymru: Dewi (lliw : melyn), Dyfrig (gwyrdd), Illtud (coch) a Teilo (glas). Mae’r pedwar llys yn cystadlu bob blwyddyn mewn nifer o gystadlaethau e.e. Eisteddfod, Athletau, traws gwlad ac ati .