Croeso i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Mae’n hyfryd eich croesawu i wefan Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf i brofi ychydig o naws a chyfoeth ein cymuned ddysgu yng nghanol Caerdydd.

Mae Glantaf yn ysgol fywiog, ofalgar a chroesawgar sydd â thraddodiad hir a disglair o lwyddiant mewn sawl maes, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wrth ein bodd bod disgyblion yn derbyn cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac i brofi llwyddiant yng nghymuned yr ysgol, boed hynny o fewn pynciau unigol, gweithgareddau allgyrsiol neu ddatblygiad personol. Rydym yn benderfynol bod ein holl ddarpariaeth yn canolbwyntio’n glir ar anghenion a datblygaid y disgybl unigol, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y cymorth a’r gynhaliaeth orau i ddatblygu i’w lawn botensial.

Rydym yn gweithio’n agos â phartneriaid allweddol i gyflawni’r weledigaeth hon, gan gynnwys ein hysgolion cynradd ar draws y dalgylch. Rydym yn llawenhau bod disgyblion o gymunedau Ysgolion Cynradd Cymraeg Hamadryad, Pwll Coch, Mynydd Bychan, Pencae, Glan Ceubal, Melin Gruffydd a’r Wern, yn ymuno â ni bob blwyddyn, ac felly’n creu cymuned ddeinamig, gyfoethog a chynhwysol. Wrth werthfawrogi amrywiaeth a chyfoeth y cymunedau hynny, rydym yn anelu at sicrhau datblygu hunaniaeth Gymreig gyfoes ddinesig ein plant a’n pobl ifanc. Wrth iddynt ymuno â chymuned yr ysgol, ac wrth dyfu ac aeddfedu yng nghwmni ein gilydd, rydym yn anelu at ysbrydoli ac annog pob unigolyn i gyfrannu yn adeiladol a chreadigol i ddiwylliant ac ethos yr ysgol fel dinasyddion uchelgeisiol, mentrus a chyfrifol.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gymuned Glantaf, i werthfawrogi llwyddiant ein disgyblion mewn cylchoedd academaidd, ar y maes chwarae, yn y byd celfyddydol, yn elusennol a chymunedol neu wrth ddatblygu ethos ac amrywiaeth o fewn cymuned yr ysgol. Yn greiddiol i’n gweithgaredd mae cyflwyno a datblygu sgiliau ieithyddol ein disgyblion, yn arbennig rhuglder a bwrlwm am y Gymraeg, sy’n amlwg hefyd o fewn arwyddair yr ysgol “Coron Gwlad ei Mamiaith”. Wrth gwrs, mae’r weledigaeth honno yng Nghaerdydd yn agor drysau ar ieithoedd a thraddodiadau amrywiol, ac ymfalchiwn yn sgiliau dwyieithog ac amlieithog ein disgyblion sy’n eu harfogi â gweledigaeth Gymreig, Ewropeaidd, fyd-eang sy’n addas i’r 21ain Ganrif.

Mewn cyfnod o newid a heriau newydd, edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi dros y blynyddoedd nesaf i gynnal a chefnogi pob disgybl yng Nglantaf i’r camau nesaf cyffrous yn eu gyrfa a’u datblygiad.

Croeso cynnes felly i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Yn ddidwyll,

Matthew H T Evans
Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf