CROESO I YSGOL GLANTAF

Mae Ysgol Glantaf yn croesawu disgyblion 11 oed sy'n gallu derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Pwysleisiwn i'n holl rieni fod Glantaf yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn cefnogi'r egwyddor o addysg gyfun drwy gynnig yr addysg hon i ddisgyblion o bob gallu, heb wahaniaethu yn erbyn hil, criw, rhyw neu anabledd cyn belled â bod y disgyblion yn gallu ymdopi ag addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae Ysgol Glantaf yn croesawu disgyblion ag anawsterau dysgu dwys i'n Canolfan Adnoddau Arbennig, Canolfan Glantaf. Mewn rhai amgylchiadau, rydym yn croesawu disgyblion o'r tu allan i'r Awdurdod sydd wedi cael caniatâd gan AALl Caerdydd. Rydym hefyd yn croesawu disgyblion hŷn sydd wedi symud i'r dalgylch os ydynt yn gallu derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

Dylid gwneud ceisiadau am le i'r Prif Swyddog Ysgol, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW. Gellir gwneud ceisiadau ar www.cardiff.gov.uk hefyd. Nifer derbyn safonol yr ysgol yw 240 y garfan.

Mae mwy o fanylion am gynnig am le ar y wefan hon:

Gwneud cais am le mewn ysgol (cardiff.gov.uk)

Mae'r ysgol yn rhoi cyfle i ddarpar rieni ymweld yn ystod noson agored blwyddyn 6. Os nad yw hyn yn bosibl, gellir gwneud trefniadau amgen drwy gysylltu â phennaeth blwyddyn 7 a chydlynydd phontio.

Rydym yn dilyn dull y sir o dderbyn plant sy'n derbyn gofal. Ein swyddog plant sy'n derbyn gofal dynodedig yw Mrs Beca Newis, sy'n gyfrifol am gefnogi lles a chyflawniad plant sy'n derbyn gofal. Mae'n gweithio'n agos gyda'r penaethiaid blwyddyn perthnasol i sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer pob disgybl.

Rydym yn croesawu darpar ddisgyblion a rhieni i gymuned yr ysgol ac yn eich gwahodd i gysylltu â'r ysgol i gael rhagor o wybodaeth.

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Glantaf.